About Us Tab  
Home Banner
Hafan > Amdanom > Ysbytai > Ysbyty Tywysog Siarl
ysbyty tywysog siarl
Prince Charles Hospital
Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful: mae ganddo tua 430 o welyau, ac mae’n darparu gwasanaethau brys aciwt, a rhai meddygol a llawfeddygol dewisol; Gofal Dwys a Gofal Coronol; gwasanaethau obstetreg dan arweiniad ymgynghorydd gydag Uned Gofal Arbennig i Fabanod; meddygaeth bediatrig dan arweiniad ymgynghorydd ar gyfer cleifion preswyl, ac mae ganddo Uned Ddamweiniau ac Achosion Brys brysur. Mae yno saith llawdrinfa. Mae’r ysbyty hefyd yn cynnig gwasanaethau geneuol a genol-wynebol isranbarthol, ystod lawn o wasanaethau arbenigol i gleifion allanol a ddarperir gan feddygon lleol ac arbenigwyr sy’n ymweld, ac mae ganddo rychwant eang o wasanaethau a chyfleusterau diagnostig gan gynnwys Tomograffeg Gyfrifiadurol 64 sleisen, Meddygaeth Niwclear ac MRI. Darperir y cyfleusterau diweddaraf yn yr Adran Radioleg, ac mae’r ysbyty’n gweithredu’n ddi-ffilm bron, gan fod delweddau ac adroddiadau digidol ar gael i glinigwyr ar hyd a lled y safle. Saif llawer o swyddfeydd corfforaethol a rheolaethol yr Ymddiriedolaeth ar y safle hwn, ynghyd â phreswylfeydd y staff clinigol.
safle yr ysbyty 
cysylltwch a'r ysbyty
Ysbyty Tywysog Siarl
Ystad y Gurnos
Merthyr Tydful
CF47 9DT
01685 721721
gwybodaeth cleifion a ymwelwyr
Cludiant
Visitors

Ymwsdiadau | Rhwyddineb
© Ymddiriedolaeth GIG Cwm Taf 2008